Rheolau'r Ffordd Fawr - rhifyn newydd 2015

Paperback

Author:
Yr Adran Drafnidiaeth (DfT)/Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau
Price: £Not known

Cadwch yn ddiogel, gwenwch yn si?r eich bod yn ymwybodol o reolau diweddaraf y ffordd, ac osgoi cosbau a dirwyon trwy gael eich copi o'r rhifyn newydd hwn o Reolau'r Ffordd Fawr.

Mae'r prawf gyrru yn cyrraedd ei 80fed pen-blwydd yn 2015, ac mae'r rhifyn coffaol hwn o Reolau'r Ffordd Fawr yn ddathliad o'r garreg filltir honno yn niogelwch ffyrdd Prydain.

Wedi ei ddiweddaru ar gyfer 2015, mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn waith darllen allweddol ar gyfer defnyddwyr ffyrdd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gan ddarparu'r rheolau diweddaraf ar gyfer y ffyrdd ac arwyddion traffig. Mae gan bob defnyddiwr ffordd gyfrifoldeb i gadw ei wybodaeth yn gyfredol, felly gwnewch yn si?r eich bod yn gwneud hynny gyda'r rhifyn diweddaraf o'r canllaw cyfeirio defnyddiol hwn.

Pob dydd, ar gyfartaledd, mae pump o bobl yn cael eu lladd a 60 o bobl yn cael eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd. Os ydym am leihau'r ffigurau hyn, mae'n allweddol bod pob defnyddiwr ffordd - gyrwyr, beicwyr modur, beicwyr, marchogwyr a cherddwyr - yn gyfarwydd â'r holl reolau yn Rheolau'r Ffordd Fawr.

Mae'r rhifyn 2015 hwn yn cynnwys y cyfreithiau yfed a gyrru newydd, newidiadau i gyfyngiadau cyflymder cerbydau nwyddau trwm ar ffyrdd sengl a deuol yng Nghymru a Lloegr, terfynau yfed a gyrru newydd yn yr Alban a newidiadau cyffredinol i reolau.

Mae Rheolau'r Ffordd Fawr ar gael ar unrhyw ffurf y gallech ddychmygu, ac yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd i adlewyrchu'r newidiadau mewn technoleg, dealltwriaeth a'r gyfraith. Daliwch ati i'w ddarllen - nid yn unig fel gyrrwr sy'n dysgu, ond fel defnyddiwr ffordd gydol oes cyfrifol - er mwyn i ni allu cadw ffyrdd Prydain ymysg y mwyaf diogel yn y byd.

Watch the DVSA 80th anniversary of the driving test video

Extent 152 o dudalennau ISBN 9780115533419
Size 112mm x 210mm Price £Not known
Format Paperback Published tbc
Availability Not available to order Availability help (opens in new window) Delivery Delivery options and charges